Telerau ac amodau
Mae'r dudalen hon yn esbonio telerau defnydd y gwasanaeth hwn. Maent yn cynnwys polisi preifatrwydd a thelerau ac amodau'r wefan hon. Drwy ddefnyddio'r gwasanaeth hwn rydych yn cytuno i'r polisi preifatrwydd a'r telerau ac amodau.
Pwy ydym ni
Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei reoli gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi a bydd yn cael ei gyfeirio ato fel 'ni' o hyn ymlaen.
Gallwn ddiweddaru'r telerau ac amodau hyn os oes newid yn y gyfraith neu i'r ffordd mae'r gwasanaeth yn gweithio.
Gwybodaeth a ddarperir gan y gwasanaeth hwn
Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu gwybodaeth i'ch cefnogi. Ni allwn roi cyngor cyfreithiol ar achosion unigol.
Dylech ateb y cwestiynau yn y gwasanaeth yn seiliedig ar eich amgylchiadau, a cheisio cyngor cyfreithiol os oes angen.
Lle mae eich data'n cael ei storio
Bydd eich data'n cael ei storio mewn canolfannau data yn y DU.
We use GOV.UK Notify to send emails. Until the point where emails are handed over to your email provider, they are processed within the EEA. Your data is stored for , and is deleted after this.
Cyfraith berthnasol
Bydd eich defnydd o'r gwasanaeth hwn ac unrhyw anghydfod sy'n deillio o'i ddefnydd yn cael ei lywodraethu a'i ddehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990
- Deddf Diogelu Data 1998
- Deddf Galluedd Meddyliol 2005
Defnydd cyfrifol o'r gwasanaeth hwn
Mae'r gwasanaeth wedi'i gynllunio ar gyfer pobl sydd angen ei ddefnyddio neu gan eraill ar eu rhan a dim ond gyda'u caniatâd.
Mae risgiau wrth ddefnyddio cyfrifiadur a rennir (er enghraifft mewn caffi rhyngrwyd) i gael mynediad at y gwasanaeth hwn. Eich cyfrifoldeb chi yw bod yn ymwybodol o'r risgiau hyn ac osgoi defnyddio unrhyw gyfrifiadur a allai adael eich gwybodaeth bersonol yn hygyrch i eraill. Chi sy'n gyfrifol os byddwch yn dewis gadael cyfrifiadur heb ei ddiogelu wrth ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.
Rhaid i chi gymryd eich rhagofalon eich hun i sicrhau nad yw'r ffordd rydych yn cyrchu'r gwasanaeth hwn yn eich gadael yn agored i risg:
- firysau
- cod cyfrifiadurol maleisus
- mathau eraill o ymyrraeth a allai niweidio eich system gyfrifiadurol
Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio'r gwasanaeth hwn drwy gyflwyno firysau, trojans, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy'n faleisus neu'n niweidiol yn dechnolegol yn fwriadol. Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i'r gwasanaeth hwn, y system y mae'n cael ei storio arni nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig ag ef. Rhaid i chi beidio ag ymosod ar y safle hwn trwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth neu ymosodiad gwrthod gwasanaeth gwasgaredig.
Mae'r gwasanaeth ar-lein hwn yn cynnwys sawl maes testun rhydd lle bydd angen i chi nodi mathau penodol o wybodaeth. Ni ddylech nodi gwybodaeth sensitif yn y meysydd testun rhydd hyn. Gall gwybodaeth sensitif gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, fanylion credoau crefyddol a gwybodaeth ariannol. Mae nodi gwybodaeth sensitif yn cael ei wneud ar eich risg eich hun.
Newidiadau i'r telerau ac amodau hyn
Gwiriwch y telerau ac amodau hyn yn rheolaidd. Gallwn eu diweddaru ar unrhyw adeg heb rybudd.
Byddwch yn cytuno i unrhyw newidiadau os byddwch yn parhau i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ar ôl i'r telerau ac amodau gael eu diweddaru.
Cysylltu â ni
CTSC (Canolfan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd)
C/o Gwasanaethau Digidol GLlTEF
PO Box 13226
Harlow
CM20 9UG
Cysylltwch â ni am help
-
Anfonwch neges atom
-
Ffôn
0300 303 0642
-
Oriau agor (ffôn)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 6pm
Ar gau ar wyliau banc