Skip to main content

Mae hwn yn wasanaeth newydd – rhowch adborth i'n helpu i'w wella. English

Yn ôl

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r gwasanaeth hwn.

Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 300% heb i'r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • ni fydd y testun yn ail-lifo mewn colofn sengl pan fyddwch yn newid maint ffenestr y porwr
  • ni allwch addasu uchder llinell na bylchu testun
  • nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin
  • nid oes ganddynt gapsiynau ar ffrydiau fideo byw
  • mae rhai o'n ffurflenni ar-lein yn anodd eu llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • ni allwch neidio i'r prif gynnwys wrth ddefnyddio darllenydd sgrin
  • mae terfyn i ba mor bell y gallwch chwyddo'r map ar ein tudalen 'cysylltu â ni'

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

E-bost: enquiries@hmcts.gsi.gov.uk
Ffôn: 0300 303 0642
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Riportio problemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

E-bost: enquiries@hmcts.gsi.gov.uk
Ffôn: 0300 303 0642

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').

Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae GLlTEF wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Mae'r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd

  • Nid oes gan rai delweddau destun amgen, felly ni all pobl sy'n defnyddio darllenydd sgrin gael mynediad at y wybodaeth. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1 (cynnwys nad yw'n destun).
  • Mae rhai o'n ffurflenni ar-lein yn anodd eu llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd. Er enghraifft, oherwydd bod rhai rheolyddion ffurflen ar goll tag 'label'. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.6 (penawdau a labeli).
  • Mae gan rai o'n ffurflenni ar-lein feysydd lle nad yw'r pwrpas wedi'i nodi. Mae hyn yn golygu na ellir llenwi'r wybodaeth yn awtomatig. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.5 (nodi pwrpas mewnbwn).
  • Nid yw rhai elfennau pennawd yn gyson, neu'n neidio lefelau pennawd. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd).
  • Nid yw rhai o'n ffurflenni rhyngweithiol yn gydnaws â darllenwyr sgrin. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 (enw, rôl gwerth).
  • Nid yw ein ffurflenni bob amser yn gydnaws â swyddogaethau awto-gwblhau porwr. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.5 (nodi pwrpas mewnbwn).

Rydym yn gweithio i drwsio'r materion hyn.

Baich anghymesur

Ddim yn berthnasol

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill

Nid yw llawer o'n PDFs a dogfennau Word hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai nad ydynt wedi'u strwythuro fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin. Nid yw hyn yn berthnasol i PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd o fis Medi 2018.

Mae rhai o'n PDFs a dogfennau Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym PDFs gyda gwybodaeth ar sut y gall defnyddwyr gael mynediad at ein gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddwyd fel dogfennau Word. Erbyn mis Medi 2020, rydym yn bwriadu naill ai trwsio'r rhain neu eu disodli gyda thudalennau HTML hygyrch.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar drwsio'r materion hygyrchedd a restrir yn y datganiad hwn.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Medi 2019. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 23 Medi 2024.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 1 Medi 2024. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC).

Fe wnaethom brofi holl dudalennau'r wefan.